Papur Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus – Ymchwiliad i Gomisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn

 

Diben

Mae'r papur hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ‘Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn’ (Rhagfyr 2021), ac am y cynnydd sy'n cael ei wneud gyda’r camau gweithredu sy'n deillio o'r Papur Gwyn ar Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth a gyhoeddwyd yn destun ymgynghoriad ym mis Ionawr 2021.

 

1.    Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion Archwilio Cymru

 

Argymhelliad A1

 

1.1.       Yn ôl argymhelliad A1, dylai Llywodraeth Cymru ystyried beth y mae canfyddiadau gwaith Archwilio Cymru yn y Gogledd yn ei olygu ar gyfer y diwygiadau polisïau arfaethedig, ac a fydd y gwaith diwygio hwn yn mynd yn ddigon pell i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol y materion a godwyd.

 

1.2.       Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar gomisiynu cartrefi gofal yn y Gogledd ac ar oblygiadau y gwaith hwnnw yn genedlaethol. Rydym yn cydnabod gwerth y gwaith hwn o safbwynt llywio ein gwaith diwygio polisi arfaethedig, ac yn arbennig o ran cyflawni ein rhaglenni gwaith cenedlaethol a rhanbarthol o dan y Rhaglen Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth. Byddwn yn sicrhau bod canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiadau hyn yn cael eu bwydo i'r Grwpiau Technegol a’r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i gefnogi'r rhaglen hon. Er enghraifft, mae Cylch Gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddarparu Gwasanaethau Integredig yn y Rhaglen Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth yn cynnwys cyfeiriad penodol at adroddiad ac argymhellion Archwilio Cymru yn ei amcanion allweddol.

 

1.3.       Nod y rhaglen yw sicrhau newid gwirioneddol yn y system, gan fynd i'r afael â'r materion a nodir yn ein Papur Gwyn ar Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth (Ionawr 2021), a sicrhau yn arbennig fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael ei gweithredu yn llawn. Dangosodd adborth yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn fod cryn gefnogaeth i'r egwyddorion a'r fframwaith a nodwyd yn Neddf 2014, ond cafwyd canfyddiad clir bod yna 'fwlch yn y gweithredu' – mater y mae'r rhaglen yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Yn ein barn ni, drwy gyflwyno’r Rhaglen Ail-gydbwyso yn llwyddiannus, eir i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd y materion a godwyd yn adroddiadau Archwilio Cymru.

 

 

Argymhelliad A2

 

1.4.       Rhestrodd argymhelliad A2 feysydd penodol y dylid mynd i’r afael â nhw fel rhan o’n rhaglen diwygio polisïau. 

 

Lleihau cymhlethdod y cyfrifoldebau ariannu ar draws partneriaid

 

1.5.       Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall y trefniadau sydd wedi’u hen sefydlu ar gyfer cyllido iechyd a gofal cymdeithasol fod yn gymhleth.

 

1.6.       Yn ddiweddar, rydym wedi adolygu'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG, a ddaeth yn weithredol ar 1 Ebrill 2022. Mae'r Fframwaith yn rhoi pwyslais ar weithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol di-dor sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae hefyd yn amlygu pwysigrwydd comisiynu ar y cyd a chyllidebau cyfun i gefnogi dull integredig. O ran Gofal Nyrsio a Ariennir, rydym yn datblygu datganiad polisi interim. Bydd hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau deddfwriaethol a dyfarniadau’r llys yn dilyn Canllawiau Gofal Nyrsio a Ariennir 2004, cyn y cynhelir adolygiad tymor hwy o bolisi Gofal Nyrsio a Ariennir. Mae hwn hefyd yn nodi pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, comisiynu ar y cyd a chyllidebau cyfun. At hynny, rydym yn bwriadu cynnwys comisiynu gwasanaethau gofal yn unol â threfniadau Gofal Iechyd Parhaus a Gofal Nyrsio a Ariennir o dan y fframwaith comisiynu cenedlaethol yn rhan o'r agenda ar gyfer Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth.

1.7.       O dan y Rhaglen Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â dwy ran y system iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd i geisio lleihau cymhlethdod a gwneud gwell defnydd o ddulliau comisiynu ar y cyd allweddol megis strategaethau comisiynu ar y cyd, methodolegau ffioedd safonol a chyllidebau cyfun.

 

1.8.       Yn amlwg, pe bai gennym gronfa ddiffiniedig a rennir y cytunir arni ar lefel leol, sy’n seiliedig ar safonau ac egwyddorion y cytunwyd arnynt yn rhanbarthol, ni fyddai angen cynnal trafodaeth a chael cytundeb cyllidebol ar gyfer achosion unigol. Yn ei dro, byddai hyn yn symleiddio'r broses i sefydliadau ac i’r bobl y maent yn darparu gofal a chymorth iddynt.

 

1.9.       Cyn bo hir, gofynnir i Weinidogion gytuno gapasiti arbenigol yn cael ei roi yn ei le yn 2022/23 i weithio gyda swyddogion a rhanddeiliaid allweddol er mwyn adolygu cymhlethdod presennol y cyllid ar gyfer cartrefi gofal pobl hŷn, a lleihau’r cymhlethdod hwnnw. Bydd casgliadau'r gwaith hwn yn llywio'r Codau Ymarfer mewn perthynas â'r Fframwaith Cenedlaethol sy'n cael ei sefydlu o dan y Rhaglen Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth a’r diwygiadau i ganllawiau statudol Rhan 9.

 

Disgrifio a chyfleu'n glir sut y disgwylir i gronfeydd cyfun weithredu ar draws partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol

 

1.10.    Nodwyd ein disgwyliadau mewn perthynas â’r trefniadau i gyfuno cronfeydd yn y rheoliadau a'r canllawiau statudol ar drefniadau partneriaeth o dan Ran 9 o Ddeddf 2014. Er bod y rheoliadau presennol yn canolbwyntio ar ddatblygu cronfeydd cyfun rhanbarthol ar gyfer gofal preswyl i bobl hŷn, diwygiwyd y codau ymarfer statudol yn 2019 i annog Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ystyried cyfuno cronfeydd ac i gomisiynu ar y cyd mewn meysydd gwasanaeth eraill. Rydym wedi bod yn glir bob amser na ddylid ystyried cyfuno cronfeydd yn nod ar ei ben ei hun – un elfen yn unig o gomisiynu ar y cyd yn effeithiol a darparu gwasanaethau yw hon, ac rydym yn cydnabod bod angen cryfhau'r trefniadau presennol.

 

1.11.    Fel ymateb i’r ceisiadau gwreiddiol am ragor o eglurder a chymorth technegol mewn perthynas â chronfeydd cyfun, cafodd Pecyn Cymorth Cronfeydd Cyfun ei gyllido a’i gydgynhyrchu gan Lywodraeth Cymru. Gweithiodd gyda rhanddeiliaid, drwy Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, i gydgynhyrchu cynnwys y Pecyn Cymorth. 

 

1.12.    Yn ogystal â hyn, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o drefniadau cronfeydd cyfun ledled Cymru. Canfu ein partneriaid ymchwil KMPG rywfaint o gynnydd nodedig, ond daethant i'r casgliad bod angen gwneud rhagor o waith i gryfhau trefniadau llywodraethu, dadansoddi’r manteision a’u gwireddu a rhannu’r risg mewn perthynas â chronfeydd cyfun.

 

1.13.    Er gwaetha’r heriau o ran sefydlu cronfeydd cyfun rhanbarthol ar gyfer cartrefi gofal pobl hŷn, mae’r hyn a ddysgwyd hyd yma wedi dangos y gellir defnyddio cronfeydd cyfun mewn amrywiaeth o wahanol feysydd gwasanaeth ac ar amrywiaeth o wahanol lefelau – gan gynnwys lefel genedlaethol, ranbarthol, is-ranbarthol lleol, clwstwr a hyd yn oed ar lefel unigol – a’u bod eisoes yn cael eu defnyddio fel hyn. Bydd cryfhau'r defnydd o gronfeydd cyfun, gan ganiatáu mwy o hyblygrwydd rhwng trefniadau rhanbarthol a lleol, ac ehangu eu cwmpas i feysydd gwasanaeth lle y gallant gael yr effaith fwyaf, yn rhan o'r ffrwd waith ar gyfer darparu gwasanaethau integredig o dan ein Rhaglen Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth.

 

Cymryd camau i fynnu trefniadau craffu cryfach ac atebolrwydd y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

 

1.14.    Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Lywodraethu a Chraffu o dan y Rhaglen Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth wedi'i sefydlu i gryfhau trefniadau partneriaeth rhanbarthol drwy adolygu ynghyd â:

 

·         mynd i’r afael â rôl, cyfrifoldebau, swyddogaethau ac aelodaeth Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

·         sicrhau bod unedau busnes Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cael digon o adnoddau a’u bod yn addas i’r diben

·         sicrhau bod gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol eu cyfrif banc eu hunain neu fod ganddynt drefniadau lletya y cytunwyd arnynt

·         mynd i’r afael â’r anghydbwysedd o ran atebolrwydd rhwng partneriaid statudol y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

·         ffurfioli’r trefniadau adrodd i/gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer partneriaid statudol 

·         pennu trefniadau craffu ar gyfer y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol gan bartneriaid statudol

·         ystyried a fyddai llunio cyd-bwyllgor corfforedig ar gyfer gofal cymdeithasol o gymorth i drefniadau llywodraethu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

 

1.15.    Yn ystod 2022-23, bydd rhanddeiliaid allweddol yn gweithio gyda swyddogion drwy'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried y meysydd uchod a llywio'r newidiadau angenrheidiol i ganllawiau Rhan 9.

 

Datblygu fframwaith ar gyfer adrodd ar berfformiad sy'n seiliedig ar ganlyniadau, sy'n cysylltu ag uchelgais polisïau a'r saith nod llesiant i Gymru

 

1.16.    Mae gwaith wedi'i wneud ar y cyd ar draws y polisi iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol drafft. Mae'r fframwaith hwn yn un o gamau gweithredu Cymru Iachach sy'n cefnogi ac yn ymgorffori’r ymrwymiad i wella trefniadau gweithio integredig. Ar hyn o bryd, mae'r Fframwaith wedi datblygu 15 o ddangosyddion poblogaeth drafft y cytunwyd arnynt ar y cyd rhwng polisi iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y cynnydd yn erbyn y dangosyddion poblogaeth arfaethedig yn dangos y nod cyffredinol o wella iechyd a llesiant pobl Cymru.

 

1.17.    Dros yr haf, bydd y dangosyddion hyn a'r rhesymau pam y cawsant eu dewis yn cael eu trafod a'u rhannu'n ehangach â rhanddeiliaid. Annog pob partner i gymryd mwy o berchnogaeth a nodi'r camau gweithredu allweddol ar gyfer gwella pob dangosydd yw’r nod wrth feithrin cysylltiadau ehangach â rhanddeiliaid.

 

1.18.    Er mwyn ategu'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol sydd newydd ei lansio yn cydgynhyrchu fframwaith canlyniadau a chanllawiau atodol â phartneriaid i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a monitro'r chwe model gofal cenedlaethol sy’n cael eu hyrwyddo drwy'r gronfa.

 

1.19.    Mae fersiynau terfynol Fframwaith Canlyniadau a chanllawiau atodol drafft y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd gyda'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Byddant yn cael eu cyflwyno i gefnogi gwaith monitro ac adrodd ar effaith sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau o'r dechrau yn deg. Mae'r canllawiau yn seiliedig ar y fethodoleg Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau, sydd wedi’i hen sefydlu erbyn hyn, ac mae'n cynnwys ystod o ddangosyddion ansoddol a mesurau meintiol ar gyfer pob un o’r chwe Model Gofal cenedlaethol newydd, ynghyd â ffynonellau gwybodaeth i sicrhau y bydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru yn gallu mesur cynnydd i fodloni canlyniadau’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.

 

 

2.    Diweddariad ar gynnydd y Rhaglen Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth

 

2.1.       Sefydlwyd y Rhaglen Ailgydbwyso yn dilyn ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth (mis Ionawr 2021), a amlinellodd gynigion ar gyfer gwella gofal cymdeithasol drwy gryfhau dulliau o weithio mewn partneriaeth ac integreiddio gwasanaethau yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Cyhoeddwyd yr ymatebion i’r ymgynghoriad ym mis Mehefin 2021. Mae’r Rhaglen wedi cael ei siapio hefyd gan y Rhaglen Lywodraethunewydd ar gyfer 2021-2026. Ar 29 Hydref 2021, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig o’r enw ‘Y Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth – y camau nesaf’.

 

2.2.       Mae'r rhaglen bellach yn ei chyfnod cyflawni, ac mae'n canolbwyntio ar y tri maes allweddol canlynol:

·         datblygu Fframwaith Cenedlaethol strategol ar gyfer gofal a chymorth a gomisiynir, i bennu safonau ar gyfer arferion comisiynu, lleihau cymhlethdod a chanolbwyntio ar ansawdd a chanlyniadau

·         creu Swyddfa Genedlaethol i oruchwylio'r gwaith o weithredu'r fframwaith hwn

·         cryfhau trefniadau partneriaeth rhanbarthol fel bod trefniadau cydweithio yn darparu gwasanaethau integredig ar gyfer poblogaethau lleol

 

Datblygu Fframwaith Cenedlaethol

 

2.3.       Mae’r gwaith o ddatblygu Fframwaith Cenedlaethol strategol eisoes wedi dechrau. Cafodd Grŵp Technegol ei gynnull ym mis Ionawr i gynghori Llywodraeth Cymru ar yr agweddau technegol ar ddatblygu polisi mewn perthynas â'r fframwaith. Bydd y Grŵp yn mynd i'r afael â chwmpas y gwasanaethau sydd i'w cynnwys yn y fframwaith, y cylch comisiynu, safonau ar gyfer comisiynu a chynllunio gwasanaethau, methodolegau ffioedd, rheoli contractau / perfformiad, fframweithiau caffael, asesu effaith, a gweithredu'r fframwaith.

 

2.4.       Bydd y Grŵp Technegol yn cyfarfod am hanner diwrnod, bob 4 wythnos yn fras. Roedd y cyfarfod cyntaf, ar 26 Ionawr, yn gyfarfod i gyflwyno’r cefndir. Roedd yr ail, ar 30 Mawrth, yn canolbwyntio ar gomisiynu. Disgwylir i’r Grŵp gwblhau ei waith yn yr hydref.

 

2.5.       Bydd adroddiad terfynol ar yr argymhellion ar gyfer datblygu polisi yn cael ei lunio gan y Grŵp Technegol a'i gyflwyno i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd yr adroddiad hwn yn llywio'r gwaith o ddatblygu Cod Ymarfer newydd. Cyhoeddir y Fframwaith Cenedlaethol i fod yn destun ymgynghoriad yn 2023, fel y nodir yn y Cod Ymarfer.

 

Cryfhau trefniadau partneriaethau rhanbarthol

 

2.6.       Mae trefniadau partneriaethau rhanbarthol yn cael eu cryfhau drwy fynd i’r afael â phum maes: Ail-gydbwyso'r Farchnad Gofal Cymdeithasol, Darparu Gwasanaethau Integredig, Ymgysylltu a Llais, Cynllunio a Pherfformiad, Llywodraethu a Chraffu. Lansiwyd y rhaglen ranbarthol hon ym mis Chwefror gan Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, gyda digwyddiad ar-lein i feithrin cysylltiadau ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae Grwpiau Gorchwyl a Gorffen yn cael eu sefydlu i oruchwylio'r gwaith o gyflawni pob un o'r ffrydiau gwaith hyn. Bydd y rhan fwyaf yn dechrau ar eu gwaith ym mis Mai.

 

Ail-gydbwyso'r Farchnad Gofal Cymdeithasol

 

2.7.       Nod Grŵp Ail-gydbwyso'r Farchnad Gofal Cymdeithasol yw cryfhau'r sector gofal cymdeithasol drwy greu marchnad fwy sefydlog a chynaliadwy ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir sy'n darparu gofal a chymorth yng Nghymru. Prif amcanion ail-gydbwyso'r farchnad yw:

 

·         ail-gydbwyso'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol drwy gynyddu darpariaeth awdurdodau lleol a'r trydydd sector a lleihau gorddibyniaeth ar y sector preifat mewn rhai agweddau ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol

·         datblygu dull o ymdrin â sefydlogrwydd y farchnad a goruchwylio'r farchnad sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd ac sy’n ymateb i anghenion poblogaethau lleol sy’n newid

·         meithrin capasiti a gallu comisiynu ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol

 

2.8.       Yn benodol, bydd disgwyl i'r grŵp hwn adolygu adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi ar 1 Mehefin) a nodi negeseuon allweddol ar gyfer adroddiad trosolwg cenedlaethol, goruchwylio cynnydd o ran datblygu'r Fforymau Gwerth Cymdeithasol rhanbarthol, cyfrannu at ddatblygu fframwaith goruchwylio'r farchnad newydd, goruchwylio gwaith i feithrin gallu a darpariaeth gomisiynu rhanbarthol, a chynghori a gwneud argymhellion ynghylch ail-gydbwyso gwasanaethau a reoleiddir ar lefel ranbarthol a lleol. Bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ar 26 Ebrill. 

 

Darparu Gwasanaethau Integredig

 

2.9.       Diben y Grŵp Darparu Gwasanaethau Integredig yw parhau â'r cynnydd a wnaed o ran gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal cymdeithasol ac iechyd integredig, ataliol yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau di-dor ar gael i'r bobl sydd angen gofal a chymorth, ac i'w gofalwyr di-dâl. Bydd hyn yn cynnwys:

 

·         datblygu glasbrint a map llwybr ar gyfer system iechyd a gofal cymdeithasol integredig, di-dor i Gymru

·         adolygu a chryfhau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol mewn system integredig

·         egluro a chryfhau'r trefniadau ar gyfer cronfeydd cyfun a chomisiynu gwasanaethau integredig ar y cyd, gan ystyried argymhellion adroddiad Archwilio Cymru 2021

 

Ymgysylltu a Llais

 

2.10.    Mae gwaith y Grŵp Ymgysylltu a Llais eisoes wedi dechrau, a bydd yn cael ei gyflwyno mewn dau gam. Mae Cam 1, sydd ar fin ei gwblhau, wedi canolbwyntio ar rôl cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr di-dâl, y trydydd sector a darparwyr ar fyrddau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae hyn yn dilyn pryderon, a godwyd gan gynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn arbennig, nad oedd y rolau hyn wedi'u diffinio yn glir, ac nad oedd yr aelodau hyn o'r bwrdd yn cael eu cefnogi yn briodol na'u galluogi i chwarae rhan lawn yn nhrafodaethau'r bwrdd. Mae'r Grŵp wedi llunio Siarter ddrafft, canllawiau ar gyfer Cadeiryddion Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a disgrifiadau rôl cyffredin, y disgwyliwn y bydd pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn eu mabwysiadu. Bydd y Grŵp yn cael ei ailgorffori ar gyfer Cam 2, a fydd yn dechrau ym mis Mai. Bydd yn datblygu rhaglen waith ehangach i gryfhau mecanweithiau ymgysylltu a llais mewn Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, ac yn goruchwylio’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen waith honno. Mae hyn yn cynnwys cryfhau cysylltiadau â dinasyddion (defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr di-dâl), y trydydd sector a grwpiau cymunedol, a (phan fo'n briodol) darparwyr gofal a chymorth. Bydd y Grŵp hefyd yn ystyried y ffordd orau o ymwreiddio arferion cydgynhyrchu ar draws pob agwedd ar waith Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a'r berthynas rhwng Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a'r Corff Llais y Dinesydd newydd.

 

Cynllunio a Pherfformiad

 

2.11.    Amcanion y Grŵp Cynllunio a Pherfformiad yw cryfhau trefniadau partneriaethau rhanbarthol mewn perthynas â pherfformiad a chynllunio. Bydd y Grŵp yn mynd i'r afael ag atebolrwydd, swyddogaethau a rhaglenni strategol penodol, gan gynnwys asesiadau o anghenion y boblogaeth, offeryn hunanasesu'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, trefniadau adrodd ar berfformiad, a gweithio tuag at ddatblygu un fframwaith cynllunio integredig i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau sy'n cyd-fynd â threfniadau cynllunio iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

 

Llywodraethu a Chraffu

 

2.12.    Er mwyn gwireddu trefniadau partneriaeth rhanbarthol cryfach, bydd y Grŵp Llywodraethu a Chraffu yn mynd i'r afael â rôl, cyfrifoldeb, swyddogaeth ac aelodaeth y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (gan gynnwys strwythur unedau busnes y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a threfniadau cyfrifon banc), yn ogystal â'r trefniadau atebolrwydd ac adrodd rhwng partneriaid statudol a'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

 

2.13.    Bydd gwaith y pum Grŵp Gorchwyl a Gorffen hyn yn cyfrannu at ddiwygio’r Canllawiau Statudol Rhan 9 ar Drefniadau Partneriaeth, yr ymgynghorir arnynt ar yr un pryd â'r Cod Ymarfer newydd ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth. 

 

2.14.    Rydym wedi ymrwymo o hyd i feithrin cysylltiadau a chydgynhyrchu â’r sector a dinasyddion. Bydd partneriaid allweddol yn aelodau o'r Grwpiau Technegol a’r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen, ac rydym hefyd yn bwriadu ennyn diddordeb yn ehangach drwy rannu gwybodaeth am raglenni a fydd yn rhoi’r diweddaraf am y camau cyflawni allweddol.